Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio

9 Hydref 2013, Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Nodyn am y Cyfarfod ynghylch Sgamiau

Yn bresennol

Ymddiheuriadau

Mike Hedges AC - CADEIRYDD

Bethan Jenkins AC

Darren Millar AC

Simon Thomas AC

Janet Finch-Saunders AC

Ed Bridges, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol

Mark Isherwood AC

Ruth Crowder, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol

Julie Morgan AC

Cathrin Manning, y Groes Goch

Lindsay Whittle AC

Ana Palazon, y Gymdeithas Strôc

Steve Cushen, Staff Cymorth (Mike Hedges AC)

Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol

Jackie Radford, Staff Cymorth (Aled Roberts AC)

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

Gerry Keighley, Age Cymru

Rachel Lewis, Cynghrair Henoed Cymru

Andrew Bertie, Scambusters

John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Tim Hodgson, Scambusters

Carol Maddock, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

Chris Jones, Gofal a Thrwsio Cymru

Phil Vining, Age Concern Caerdydd a'r Fro

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

 

Daisy Cole, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn

 

Monika Hare, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

 

 Roby Miles, Glaxo Smith

 

Graeme Francis, Age Cymru

 

Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD

 


Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Mike Hedges AC bawb i'r cyfarfod a gofynnodd i bawb gyflwyno eu hunain o gwmpas y bwrdd.

Ethol Ysgrifennydd y Grŵp

Etholwyd Age Cymru i barhau i ddarparu cymorth ysgrifenyddol i'r Grŵp Trawsbleidiol. Bydd Laura Nott yn cymryd y cyfrifoldeb am y dyletswyddau hyn oddi wrth Ceri Cryer.

 

 

Dyddiad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cytunwyd y byddai Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol yn cael ei gynnal ar 7 Mai, 2014.

Cyflwyniad gan Andrew Bertie, Scambusters

Cafodd Tîm Scambusters Cymru, a sefydlwyd gan Benaethiaid Safonau Masnach, ei lansio ym mis Ebrill 2009 a chaiff ei reoli gan Safonau Masnach Cyngor Dinas Casnewydd.  Mae timau o swyddogion wedi eu lleoli yn y gogledd a'r de. Mae'r tîm yn cael ei reoli gan y 22 Gwasanaeth Safonau Masnach unigol yng Nghymru.

Mae Tîm y Scambusters yn mynd i'r afael â phobl sy'n galw'n ddiwahoddiad ar draws Cymru at y diben o dwyllo.  Mae hyn yn cynnwys masnachwyr twyllodrus sy'n mynd o ddrws i ddrws, a throseddau ym maes busnes. Mae ganddynt bŵer i erlyn 'sgamwyr', ac i fynd ati i adennill arian ar gyfer dioddefwyr drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau. Ar hyn o bryd, mae Scambusters yn gweithio ochr yn ochr â nifer o sefydliadau, gan gynnwys Age Cymru, i ledaenu'r neges am sgamiau yng Nghymru.  

Cyfeiriodd Andrew Bertie at rai enghreifftiau o astudiaethau achos, fel a ganlyn:

1.  Cafodd dyn dall a oedd yn byw ar ei ben ei hun, gyda rhywfaint o gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ymweliad gan fasnachwyr twyllodrus 12 mis ar ôl iddo ddioddef ymweliad twyllodrus tebyg o'r blaen. Dywedwyd wrtho bod angen gwneud rhywfaint o waith ar y teils ar ei do. Aethant ag ef i'w fanc lleol, a safodd un ohonynt yn ei ymyl tra bu'n tynnu arian allan. Yna, cydiwyd ynddo gerfydd ei fraich, ei arwain allan o'r banc ac yn ôl at y car. Yna, aethant ag ef yn ôl i'w fyngalo.

Wedi iddynt gyrraedd y tŷ, a chyn i'r dynion ddechrau ar y gwaith, galwodd gweithiwr cymdeithasol heibio gan herio'r dynion, gan ei bod yn amlwg nad oedd angen gwneud unrhyw waith i'r to.  Gofynnodd am yr arian yn ôl.  Dychwelwyd yr arian, ac aeth y dynion i ffwrdd.  Galwyd y tîm safonau masnach lleol, ac ymchwiliwyd i'r mater gan Dîm y Scambusters.  Gwelwyd bod cysylltiad rhwng y digwyddiad hwn â digwyddiad tebyg mewn ardal arall lle cafodd gwaith diangen o ansawdd gwael ei wneud.

Daethpwyd o hyd i un o'r troseddwyr.  Cafodd ei arestio a'i ddedfrydu i 14 mis yn y carchar yn sgîl achos llys.

2.  Mewn enghraifft arall cafodd unigolyn ei dwyllo o £90,000 am waith atgyweirio ac adnewyddu. Cafodd hyn effaith ar iechyd yr unigolyn dan sylw. Mae'r ystadegau yn dangos y gall sgamiau effeithio ar iechyd, a hyd yn oed achosi marwolaeth.

Gofynnodd Andrew i'r grŵp, 'Pryd alwodd masnachwyr heibio heb wahoddiad ddiwethaf?', 'Pan fyddwch chi yn eich 80au, sut fyddwch chi'n teimlo bryd hynny?'

Rhannodd Andrew rai ystadegau gyda'r grŵp, gan gynnwys y ffaith fod 63% o ddioddefwyr yn dioddef fwy nag unwaith. Mae yma gyfle i orfodi'r gyfraith. Nid achos o godi pais yw hwn.

Mae astudiaethau wedi dangos bod llawer iawn o achosion o'r fath heb eu riportio, yn bennaf oherwydd embaras ar ran y dioddefwr, a'r ofn a all fod gan bobl na allant ymdopi mwyach. Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod achosion o'r fath yn effeithio'n ddifrifol ar iechyd y dioddefwyr.

 

Cyflwyniad gan Gerry Keighley, Age Cymru

Dechreuodd Gerry drwy grynhoi ymgyrch Age Cymru mewn un gair - diogelu.

Mae wedi bod yn siarad â phobl hŷn, sydd wedi sôn wrtho sut y cawsant eu llethu a'u dychryn gan sgamiau a thechnegau gwerthu sy'n rhoi pwysau ar y cwsmer. Yr oeddynt yn teimlo'n rhwystredig, ac yn ofni eu bod wedi cael eu camarwain. Yr oeddynt hefyd yn poeni, ac yn cael eu dychryn weithiau, gan bobl sy'n galw heibio i werthu rhywbeth nad ydynt ei eisiau neu ei angen, er enghraifft, dreif neu do newydd. Mae pobl hŷn yn dal i gael eu hebrwng at fanciau gan dwyllwyr i dynnu symiau mawr allan - mae'n dechrau gyda chnoc ar y drws.

Pwysleisiodd Gerry bod cwmnïau ar-lein yn gyfrwng i droseddwyr o bob math drwy'r e-bost. Mae pobl hŷn yn cael eu hannog i ymuno â'r rhwydwaith digidol, ond a allwn ni atal sgamiau rhag cael eu hanfon at gyfrifon e-bost pobl? Awgrymodd Gerry y posibilrwydd o weithio'n fwy agos gyda chyflenwyr band eang a allai wneud mwy i atal sgamiau, boed y rheini yn seiliedig ar rwydwaith cwmwl neu ar eu cyfrifiaduron unigol. Gallai darparwyr band eang, busnesau mawr, rhaglenni cymunedol neu hyd yn oed y wladwriaeth roi cymhorthdal ar gyfer hyn. Y canlyniad hollbwysig fyddai bod sgamiau yn cael eu rhwystro rhag cyrraedd blychau post cyfrifiadurol.

Mae Age Cymru yn credu y dylai'r Post Brenhinol edrych ar bost pan fydd yn cyrraedd ei swyddfeydd ac wrth ei ddosbarthu i gartrefi pobl hŷn. Gall pobl hŷn sy'n derbyn post sgam gael hyd at dri neu bedwar llythyr sgam bob dydd. Mae Age Cymru yn awyddus i weithio'n agos gyda'r Post Brenhinol, safonau masnach ac, o bosibl, y gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd y Post Brenhinol bod ganddynt ddyletswydd i ddosbarthu'r holl bost - ond gofynnodd Gerry ai felly y dylai fod, gan grybwyll dosbarthu cyffuriau fel enghraifft.

Mae gwasanaethau lle gellir pennu dewis o ran post a ffôn yn honni eu bod yn cynnig rhywfaint o ryddhad, ond nid ydynt yn rhwystro troseddwyr, yn enwedig rhai tramor, ac mae enwau personol ar lawer o'r post gan olygu felly ei fod y tu allan i gwmpas y gwasanaethau dewis. Y neges allweddol yma yw ein bod yn credu bod gan y cwmnïau telathrebu gyfrifoldeb i amddiffyn cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn well.

Hefyd, mae Age Cymru yn awyddus i weld y broses o greu Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad yn llai biwrocrataidd, a gwneud yr ardaloedd hynny yn rhai y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol. Byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r materion troseddu ar garreg y drws a amlygwyd yn flaenorol gan Andrew Bertie. Gallai Cymru arwain gweddill y DU yn y maes hwn. Gofynnodd Gerry am gefnogaeth yr Aelodau'r Cynulliad a oedd yn bresennol i helpu gyda hyn.

 

 

Cwestiynau

Darren Miller AC –  rydym wedi cael rhai cwestiynau yn ein cymhorthfa ond nid ydym wedi bod yn fodlon gyda'r ymateb. Roedd un stori yn ymwneud ag unigolyn a gafodd ei dwyllo deirgwaith am nad oedd y paneli solar ar ei dŷ yn gweithio. Rwy'n cael fy nghalonogi gan yr ymgyrch yn erbyn sgamiau, ac rwyf yn llwyr gefnogi Age Cymru. Gallai'r Aelodau Cynulliad ysgrifennu 'Datganiad o Farn', yn tynnu sylw at y pwyntiau a godwyd yn y Grŵp Trawsbleidiol. Mae angen i ni weld a all y Gweinidog Llywodraeth Leol hefyd dynnu sylw at y pwyntiau am sgamiau.

Pa gamau y mae Llywodraeth Leol yn eu cymryd i helpu pobl hŷn i rwystro masnachwyr twyllodrus?

Lindsay Whittle AC  –  a allwn geisio rhoi arian pobl hŷn yn ôl iddynt ?

Andrew Bertie – mae un person ar fechnïaeth ar ôl i £200,000 gael ei gymryd o gyfrif rhywun. Mae Scambusters yn mynd ar drywydd yr achos hwn ar hyn o bryd, ac yn ceisio cael yr arian yn ôl. Os gallwch chi weld tystiolaeth o'r drosedd yn y sgam, er enghraifft bod cerdyn credyd wedi cael ei ddefnyddio i wneud y taliad, mae'n haws cael yr arian yn ôl.

Lindsey Whittle AC – gallwn enwi sgamwyr a chodi cywilydd arnynt. Mae hefyd yn bwysig sylweddoli bod sgamiau yn effeithio ar nifer fawr o blant.

Janet Finch-Saunders AC – cafodd perthynas agos i mi, sydd â gwraig anabl, ei dwyllo wrth geisio adnewyddu'r dreif at y tŷ. Yn ystod y gwaith, blociodd y sgamwyr gar fy mherthynas yn y dreif, fel na allai fynd i'r ysbyty gyda'i wraig hyd nes ei fod yn talu £40,000 iddynt. Galwyd yr heddlu yn yr achos hwn. Enghraifft arall yw gŵr bonheddig a gafodd gynnig cegin newydd sbon ac a aeth heb unrhyw gyfleusterau golchi am dridiau, hyd nes bod y sgamwyr yn cael £1,000 o flaendal ganddo. Ar ôl tair wythnos, ni ddaeth y sgamwyr yn ôl i orffen y gwaith. Gall hyn ddigwydd i unrhyw un. Byddaf yn gweithio gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol i fynd i'r afael â hyn. Un peth sy'n peri penbleth imi -  os ydynt ar fechnïaeth, pam na allant gael eu herlyn?

Andrew Bertie – yn anffodus nid ydym wedi gallu erlyn y bobl yn yr achos hwnnw eto. Rydym yn parhau i weithio gyda'r heddlu ar hyn.

Mark Isherwood AC –  Pwy sy'n gyfrifol yn ôl y gyfraith o ran mynd i'r afael â sgamiau? Y Cynulliad neu San Steffan? Gallai aelod o'r grŵp hwn ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i gael eu barn ynghylch pwy sy'n gyfrifol. Pa drafodaeth sydd wedi'i chynnal gyda sefydliadau?

Gerry Keighley  – Yr ydym wedi bod mewn cysylltiad gyda'r Post Brenhinol, BT a sefydliadau eraill, ac rydym yn parhau i geisio cynnal deialog adeiladol gyda hwy. Mae trafodaeth bwrdd crwn gyda'r Farwnes Randerson wedi'i threfnu yn Swyddfa Cymru ymhen mis, ac rydym yn gobeithio y bydd yr holl sefydliadau allweddol yn bresennol yno.  

Lynda Wallis  – mae nifer sylweddol o bobl hŷn yn cael eu twyllo, ac nid ydynt yn dweud wrth neb oherwydd eu bod yn ofni y bydd pobl yn chwerthin am eu pennau am gael eu twyllo yn y fath fodd. Dan yr wyneb, mae hon yn broblem fwy o lawer, ac er ein bod yn llwyddo i gyfleu'r neges, mae pobl hŷn yn dal i deimlo cywilydd. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth y gall ein fforwm ei wneud i helpu.

Chris Jones  – Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn addo ein cefnogaeth i'r ymgyrch hon. Mae angen rhannu llawer mwy o wybodaeth am gontractwyr dibynadwy. Mae llawer o waith lleol yn cael ei wneud gan Gofal a Thrwsio i baratoi rhestrau o bobl sydd ag enw da.

Mike Hedges AC  – byddem yn hoffi cefnogi'r ymgyrch hon yn swyddogol a chreu 'Datganiad o Farn', gan ennill cefnogaeth Aelodau'r Cynulliad a'r hyn y gallant ei wneud i'n cefnogi. Mae angen i ni roi mwy o gyhoeddusrwydd i sgamiau a gwneud pobl yn ymwybodol o'r risgiau. Beth allwn ni ei wneud yn ymarferol am ardaloedd dim galw diwahoddiad? A allwn ni wneud dinasoedd cyfan yn ardaloedd dim galw diwahoddiad, yn hytrach na mannau llai?

Andrew Bertie –  mae angen ardaloedd dim galw diwahoddiad ledled Cymru. Pwy sy'n galw heibio'ch tŷ chi? Nid yw busnesau cyfreithlon yn galw heibio tai pobl y dyddiau hyn.

Gerry Keighley – byddai'n wych gallu dweud mai Cymru yw'r wlad ddiogelaf o ran sgamiau cyn gweddill y DU.  

Mike Hedges AC –
os caiff cardiau credyd eu defnyddio i dynnu symiau mawr allan, byddai'r banc yn cysylltu â chi ac yn cwestiynu'r taliad i sicrhau ei fod yn ddilys. Ond pan fyddwch yn tynnu arian yn uniongyrchol o'r peiriant arian parod, nid yw'n cael ei fonitro. Mae angen inni weithio'n agosach gyda banciau i ofyn pam mae hyn yn digwydd, ac a ellir newid hyn.

Graeme Francis – mae'r banciau wedi tynhau eu protocolau ond mae'r ymatebion lleol yn dal i ddibynnu'n drwm ar hyfforddiant staff.

Mark Isherwood AC – o'm profiad i, roedd sgamwyr yn cael eu hadnabod ar y cyfan cyn i arian parod gael ei dynnu allan oherwydd bod y staff wedi derbyn hyfforddiant digonol. Byddwn bob amser yn argymell bod staff yn 'adnabod eu cwsmeriaid' a bod hynny'n gynllun hanfodol i feithrin perthynas. Drwy wneud hynny byddech yn gwybod pan fyddai problem yn codi. 

Cytunodd Mike Hedges AC a Mark Isherwood AC i gyfarfod i drafod hyn ymhellach.

Chris Jones –mae sgamiau am effeithlonrwydd ynni, sy'n defnyddio cynlluniau'r llywodraeth, megis y Fargen Werdd, hefyd yn cael eu defnyddio'n amlach ar hyn o bryd.

Daisy Cole –mae Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cefnogi'r ymgyrch hon a bydd yn gweithio'n agos gydag Age Cymru

Mike Hedges AC – Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwneud yr hyn a allant i atal hyn rhag parhau i ddigwydd.

Daeth y cyfarfod i ben.

Argymhellion/camau gweithredu

·         Aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol i lofnodi Datganiad o Farn ar y cyd i gefnogi ymgyrch Scambusters ac Age Cymru yn erbyn sgamiau.

·         Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol, i ofyn beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â sgamiau.

·         Canfod pwy sy'n gyfrifol am sgamiau ar garreg y drws drwy Gomisiwn y Cynulliad. Y Cynulliad neu San Steffan?

·         Mike Hedges AC a Mark Isherwood AC i weithio'n agosach gyda banciau wrth drafod problemau sgamio.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

5 Chwefror 2014